Mae dau o bobol oedd yn teithio mewn lori wedi’u harestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus, yn dilyn damwain angheuol ar draffordd yr A1.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i safle’r ddamwain yn Colsterworth yn Swydd Lincoln toc wedi 1 o’r gloch y bore, wedi i gar a lori fod mewn gwrthdrawiad.

Mae Heddlu Swydd Lincoln yn dweud fod y rheiny oedd yn teithio yn y car wedi marw’n syth o ganlyniad i’r hanafiadau. Maen nhw’n dal i ymchwilio i achos y gwrthdrawiad.

Yn y cyfamser, mae’r draffordd wedi cau i’r ddau gyfeiriad, ac mae disgwyl i bethau aros felly am rai oriau.