Mae gan yr SNP fandad o hyd i gynnal ail refferendwm ar annibyniaeth cyn yr etholiadau nesaf yn Holyrood yn 2021, meddai Nicola Sturgeon.

Mae Prif Weinidog yr Alban wedi dweud droeon na fyddai’n cyhoeddi dyddiad ar gyfer refferendwm nes bod rhagor o eglurder ynglŷn â Brexit.

Serch hynny, nid yw hi wedi diystyru cynnal pleidlais arall o fewn y pedair blynedd nesaf.

Daeth ei sylwadau i STV News wrth iddi gael ei holi am nifer o faterion yn ystod cynhadledd plaid yr SNP yn Glasgow.

Roedd Nicola Sturgeon wedi galw am gynnal refferendwm yn yr hydref y flwyddyn nesaf neu’r gwanwyn 2019, ond ar ôl colli 21 o seddi yn yr etholiad cyffredinol ym mis Mehefin, fe benderfynodd ohirio’r bleidlais nes bod telerau Brexit yn fwy clir.

Mae disgwyl i Nicola Sturgeon godi’r mater pan fydd yn annerch aelodau’r blaid ddydd Mawrth. Fe fydd hi hefyd yn canolbwyntio ar Brexit ar ol i weinidogion yr Alban fod yn feirniadol iawn o drafodaethau Llywodraeth San Steffan gyda’r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd bod yr achos dros gael Alban annibynnol yn “cryfhau bod dydd”.