Llun: PA
Mae 12 o bobl wedi cael eu harestio ar amheuaeth o smyglo arfau a chyffuriau dosbarth A i’r Deyrnas Unedig.

Cafodd pedwar unigolyn o’r Deyrnas Unedig eu harestio yn Calais, Ffrainc, ddydd Gwener (Hydref 6); gan gynnwys swyddog o Lu’r Ffiniau – adran sydd yn gyfrifol am warchod ffiniau Prydain.

Gwnaeth swyddogion ddod o hyd i 11 dryll ynghyd â 34kg o gocên a 7kg o heroin. Mae’r pedwar unigolyn yn parhau i fod yn y ddalfa.

Yn dilyn y cyrch cafodd wyth dyn eu harestio yng Nghaint, a chafodd chwech ohonyn nhw eu cyhuddo o gynllwynio i fewnforio arfau a chyffuriau. Cafodd y ddau ddyn arall eu rhyddhau tra bod ymchwiliadau’r heddlu’n parhau.

Mae’r chwech yn parhau yn y ddalfa ac mi fyddan nhw’n ymddangos gerbron Llys Ynadon Barkingside ar Hydref 9.

Cydweithio dros y Sianel

“Mae’r cyrch yma wedi dibynnu ar gydweithio rhwng swyddogion ar bob ochr y Sianel,” meddai Pennaeth uned gwrth-llygredd yr Asiantaeth Troseddu Genedlaethol, Dave Hucker.

“Ac, rydym yn credu ein bod wedi atal swm sylweddol o gyffuriau dosbarth A a drylliau rhag cael eu mewnforio i’r Deyrnas Unedig. Mae’r ymchwiliad yn parhau, ym Mhrydain ac yn Ffrainc.”