Llun: PA
Wrth annerch Tŷ’r Cyffredin heddiw (Hydref 9) mi fydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, yn dweud ei bod yn teimlo’n “obeithiol” am y camau nesaf yn y trafodaethau Brexit .

Bydd Theresa May hefyd yn dweud ei bod yn bwriadu diogelu’r cytundeb gorau i’r Deyrnas Unedig ac i’n “cyfeillion” yn yr Undeb Ewropeaidd ond bod angen iddyn nhw ddangos hyblygrwydd  wrth drafod telerau Brexit.

Daw’r datganiad ar drothwy’r pumed rownd o drafodaethau Brexit ym Mrwsel – y rownd olaf cyn i Ewrop benderfynu os oes modd troi at gam nesaf y trafodaethau.

Mae’r Senedd Ewropeaidd eisoes wedi pasio cynnig yn dweud nad yw’r trafodaethau hyd yma wedi dangos cynnydd, ac mae’n annhebygol y bydd arweinyddion yn caniatáu cam nesaf y trafodaethau.

“Ymateb positif”

“Ewrop fydd yn penderfynu ar yr hyn fydd yn digwydd nesaf,” mae disgwyl i Theresa May ddweud wrth Aelodau Seneddol. “Dw i’n  obeithiol y cawn ymateb positif.”

“Oherwydd dydyn ni ddim yn unig yn trio diogelu’r cytundeb gorau i ni – ond hefyd rydym yn ceisio diogelu’r cytundeb gorau i’n cyfeillion Ewropeaidd hefyd.”