Fe allai gofod parcio ym Mhorth Iâ yng Nghernyw gael ei werthu am hyd at £40,000 mewn arwerthiant fis nesaf.

Mae’r gofod yn agos i ganol y dref, y traeth a’r harbwr, lle mae twristiaid yn heidio dros yr haf.

Mae’r gofod ym maes parcio Tregenna Hill yn mesur 4.4 metr wrth 2.1 metr.

Dywedodd llefarydd ar ran arwerthwyr Clive Emson fod “galw mawr am ofod parcio a garej i gloi ceir dros y blynyddoedd diwethaf”.

“Mae poblogrwydd yr ardal, ynghyd â nodweddion diogelwch y gofod hwn a’i leoliad sydd yn agos i’r harbwr pictiwresg, yn sicr o ddenu cryn ddiddordeb mewn arwerthiant.

“Rydyn ni’n disgwyl ceisiadau gan breswyliaid yn ogystal â pherchnogion ail gartref a chartref gwyliau sy’n chwilio am sicrwydd parcio yn y dref, hyd yn oed ar adegau brig dros yr haf.”

Bydd yr arwerthiant yn cael ei gynnal ar 3 Tachwedd.