Mae ffrindiau cyn-Brif Weinidog Ceidwadol Prydain, Syr Edward Heath wedi galw am ymchwiliad barnwrol i’r modd y cafodd yr ymchwiliad i honiadau o droseddau rhyw yn ei erbyn gael ei gynnal.

Mae e wedi’i amau o dreisio ac ymosod yn anweddus ar fechgyn mor ifanc â deg oed.

Ac fe ddaeth ymchwiliad Heddlu Swydd Wiltshire i’r casgliad bod digon o sail i saith o’r honiadau i’w rybuddio cyn ei holi.

Ond doedd 35 o’r honiadau ddim wedi cyrraedd y trothwy er mwyn gwneud hynny.

Mae’r honiadau eraill yn cynnwys llofruddio plant a chamdrin fel rhan o arfer ddieflig.

Adroddiad

Yn ôl nifer o’i ffrindiau, roedd adroddiad yr heddlu yn dilyn yr ymchwiliad i’r honiadau’n “ddiffygiol”, ac fe ddywedon nhw eu bod nhw’n bwriadu cwyno’n swyddogol wrth Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu.

Dywedodd yr Arglwydd Hunt fod “angen brys” am ymchwiliad barnwrol i Ymchwiliad Conifer, a bod “enw da Syr Edward wedi’i bardduo’n annheg” oherwydd “taith bysgota”.

Ymchwiliad Conifer

Syr Edward Heath oedd y ffigwr mwyaf blaenllaw i gael ei holi fel rhan o Ymchwiliad Conifer i honiadau o droseddau rhyw yn San Steffan.

Cafodd yr ymchwiliad ei lansio yn 2015 a’i gydlynu gan 14 o heddluoedd drwy wledydd Prydain.

Cafodd Syr Edward Heath ei enwi fel un oedd yn cael ei amau o droseddau.

Cafodd nifer fawr o unigolion eu holi, a chafodd ymchwiliad ei gynnal o ddyddiaduron personol y cyn-Brif Weinidog.

Cafodd yr heddlu eu beirniadu ar ddechrau’r ymchwiliad am gynnal cynhadledd i’r wasg y tu allan i’w gartref.