Daeth cadarnhad y bydd prif swyddog gweithrediadau cwmni awyr Ryanair yn gadael y cwmni ddiwedd y mis.

Daw’r newyddion ar ôl o filoedd o deithiau awyr gael eu canslo hyd at fis Mawrth y flwyddyn nesaf yn sgil gwallau yn y modd y caiff peilotiaid eu hamserlennu ar gyfer teithiau.

Mae canslo’r teithiau wedi effeithio ar 700,000 o deithwyr.

Er ei ymddiswyddiad, daeth cadarnhad y bydd Michael Hickey yn parhau i fod yn ymgynghorydd i’r cwmni.

Roedd y cwmni wedi bod dan y lach am ganslo 50 o deithiau y dydd ganol fis Medi cyn i 18,000 o deithiau gael eu canslo ddiwedd y mis.

Mae Ryanair yn mynnu eu bod nhw wedi cymryd camau priodol i ddatrys y sefyllfa ddiweddar.