Theresa May - 'yr ysgrifen ar y mur' (Dominic Lipsinki/Pa Wire)
Mae’n rhaid i’r Ceidwadwyr “chwilio am arweinydd newydd” yn ôl cyn-Gadeirydd y blaid.

Mae’r Aelod Seneddol, Grant Shapps, wedi cyfaddef ei fod yn rhan o gynllwyn i gael gwared ar y Prif Weinidog, Theresa May, ac yn honni bod “hyd at 30” o aelodau seneddol yn ei gefnogi.

“Fe gawson ni ganlyniad [yn yr etholiad cyffredinol] nad oedd neb eisiau,” meddai Grant Shapps wrth BBC Radio 5 Live.

“Weithiau pan mae pethau’n digwydd mae’n rhaid cymryd cyfrifoldeb amdanyn nhw, a dyna beth ddylai ddigwydd fan hyn … Mae’r ysgrifen ar y mur i May.”

Cefnogaeth

Mae nifer o weinidogion y blaid Geidwadol wedi amddiffyn Theresa May, gyda’r Ysgrifennydd Gwladol, Amber Rudd, yn mynnu mewn erthygl bapur newydd y “dylai hi aros” er gwaethaf “methiannau” araith ddiweddar.

Mae’n debyg bod ffigyrau blaenllaw’r blaid yn ffyddiog bod y mwyafrif aelodau seneddol Ceidwadol yn credu dylai Theresa May barhau yn arweinydd.

Yn ôl rheolau’r Ceidwadwyr, fe fyddai’n rhaid i 48 aelod seneddol ddatgan eu hanfodlonrwydd â’u harweinydd er mwyn sbarduno gornest am yr arweinyddiaeth.