Theresa May (Llun: Jonathan Brady/PA Wire)
Mae disgwyl i’r Prif Weinidog, Theresa May, ddweud wrth ei phlaid bod angen iddyn nhw ganolbwyntio ar bleidleiswyr yn hytrach na’r arweinyddiaeth.

Wrth annerch cynhadledd y Ceidwadwyr ym Manceinion ddydd Mercher (Hydref 4), bydd Theresa May hefyd yn dweud bod angen i’r blaid “gael trefn ar bethau”.

Mae’n bosib mai ymateb yw’r sylw yma i sylwadau gwnaed gan Arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, wythnos ddiwethaf: “Rhowch drefn ar bethau, neu fel arall camwch i’r neilltu.”

Pwnc sydd wedi dominyddu’r gynhadledd eleni yw perthynas Theresa May â’r Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson – unigolyn sydd yn llygadu’r arweinyddiaeth ôl rhai.

Er i Boris Johnson herio’r Prif Weinidog mewn erthygl papur newydd wnaeth gael ei gyhoeddi cyn y gynhadledd, fe ganmolodd ef hi mewn araith ddydd Mawrth (Hydref 3).