Llun: Monarch
Mae miloedd o deithwyr yn dychwelyd yn ôl i’r Deyrnas Unedig ar ôl i’r cwmni teithio Monarch fynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Mae methiant y cwmni wedi arwain at 2,000 o weithwyr yn colli eu swyddi.

Roedd disgwyl i 11,000 o deithwyr ddychwelyd i’r DU erbyn nos Lun, llai na 24 awr ar ôl i’r cwmni fynd i’r wal.

Mae tri chwarter miliwn o bobl eraill a oedd wedi bwcio gwyliau gyda Monarch wedi’u heffeithio.