Philip Hammond (Llun y Blaid Geidwadol)
Mae’r Canghellor, Philip Hammond, wedi anfon rhybudd at yr Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, yn dweud  “nad oes unrhyw un yn medru osgoi’r sac.”

Ar ail ddiwrnod cynhadledd y Ceidwadwyr ym Manceinion mae disgwyl mai Boris Johnson â’i her i awdurdod y Prif Weinidog, Theresa May, fydd yn hawlio’r sylw.

Wrth siarad nos Sul dywedodd y cyn-Ysgrifennydd Addysg, Nicky Morgan, y byddai’n rhaid “cael gwared” ar yr Ysgrifennydd Tramor os na fydd yn dangos teyrngarwch i’r Prif Weinidog.

Mae Siambrau Masnach Prydain wedi lleisio pryderon bod yr anghydfod rhwng gweinidogion yn niweidio hyder busnesau ym Mhrydain.

Wrth siarad ar raglen Good Morning ITV dywedodd Philip Hammond: “Dw i bob tro wedi dweud nad oes unrhyw un yn medru osgoi’r sac. Rhaid i bawb o fewn y Llywodraeth dynnu’u pwysau.”

Rheilffyrdd

Wrth annerch y gynhadledd heddiw mae disgwyl i Philip Hammond gyhoeddi buddsoddiad £400 miliwn ar gyfer trafnidiaeth yng ngogledd Lloegr – caiff £300 miliwn ei wario ar reilffyrdd.

Daw’r cyhoeddiad yn sgil penderfyniad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ym mis Gorffennaf i beidio trydaneiddio’r rheilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe.