Y Prif Weinidog Theresa May (llun: Dominic Lipinske/PA Wire)
Ar drothwy cynhadledd flynyddol y Blaid Geidwadol ym Manceinion, mae’r Prif Weinidog Theresa May wedi mynnu bod y cabinet yn unedig y tu ôl iddi.

Mae hyn er gwaethaf dyfalu cynyddol fod yr Ysgrifennydd Tramor Boris Johnson yn ceisio ei thanseilio ar bob cyfle gyda sylwadau’n galw am safbwyntiau caletach ar Brexit gan y blaid.

Mae aelod arall o’r Cabinet, Sajid Javid, hefyd wedi gwrthod cadarnhau a yw’n gobeithio gweld Theresa May yn arwain ei phlaid yn yr etholiad nesaf.

Yn dilyn araith y Prif Weinidog yn Fflorens yr wythnos ddiwethaf, roedd Boris Johnson eisoes wedi gwrth-ddweud amryw o brif bwyntiau’r araith.

Mewn cyfweliad gyda’r darlledwr Andre Marr y bore yma, fe wnaeth hi osgoi ateb cwestiwn a oedd Boris Johnson yn ‘unsackable’.

“Gadewch inni fod yn gwbl glir beth sydd gennym yn y Llywodraeth,” meddai. “Mae gennym lywodraeth sy’n benderfynol o adeiladu gwlad sy’n gweithio i bawb.”

Gwrthododd hefyd â chyfaddef mai camgymeriad oedd galw etholiad cyffredinol ddechrau’r haf.

“Na. A yw hi byth yn gamgymeriad rhoi cyfle i bobl bleidleisio? Dw i ddim yn meddwl,” meddai.