Mae disgwyl i arweinydd newydd UKIP, Henry Bolton amlinellu ei weledigaeth ar gyfer y blaid heddiw ar ôl cael ei ethol yn olynydd i Paul Nuttall.

Fe ddywedodd eisoes ei fod yn bwriadu ceisio uno’r blaid ar ôl trechu ymgeisydd gwrth-Islamaidd, Anne Marie Waters oedd wedi disgrifio’r crefydd fel un “drwg”.

Henry Bolton yw pedwerydd arweinydd y blaid o fewn cyfnod o flwyddyn ar ôl canlyniad siomedig yn yr etholiad cyffredinol brys, gan ennill dim ond 1.8% o’r bleidlais, i lawr o 12.6% yn 2015.

Wrth gyfeirio at Anne Marie Waters, dywedodd Henry Bolton ar ôl cael ei ethol fod y blaid wedi osgoi dod yn “Blaid Natsïaidd y Deyrnas Unedig”.

Ond wrth ymateb i hynny, fe wnaeth Anne Marie Waters droi at wefan gymdeithasol Twitter i ddweud “Heddiw: Jihad -1 Y gwirionedd – 0.”

Ac mi gyfeiriodd hefyd at y ffaith ei bod hi wedi cael ei beirniadu am fod yn aelod o’r Blaid Lafur yn y gorffennol, tra na fu unrhyw sôn, meddai, am y ffaith fod Henry Bolton yn gyn-aelod o’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Yr enillydd

Mae Henry Bolton wedi achosi tipyn o syndod i rai drwy guro’r ceffylau blaen, Anne Marie Waters a Peter Whittle, sy’n aelod o Gynulliad Llundain.

Fe enillodd e 3,874 o bleidleisiau.

Ac mae’n ymddangos bod ei fuddugoliaeth wedi atal hollt yn y blaid, gyda rhai wedi rhybuddio y bydden nhw’n gadael y blaid pe bai Anne Marie Waters yn ennill y ras.

Mae lle i gredu y bydd y cyn-arweinydd Nigel Farage a’r buddsoddwr Arron Banks yn ôl yn rhengoedd y blaid yn sgil y canlyniad.

Dywedodd y byddai’n trafod dyfodol y ddau, a dyfodol Anne Marie Banks, gyda nhw yn fuan.

Fe fydd Henry Bolton yn annerch cynhadledd y blaid heddiw.

Cefndir gwleidyddol

Mae Henry Bolton, mewn cyfweliad â Radio 4, wedi lled-gyfaddef mai am nad oedd e eisiau ymuno â’r Ceidwadwyr na Llafur yr ymunodd e â’r Democratiaid Rhyddfrydol yn wreiddiol.

Ond fe ddywedodd fod Rhyddfrydiaeth “wedi colli’i ffordd” yn ddiweddar.

Ac yntau’n gyn-weinyddwr gyda’r Cenhedloedd Unedig yn Cosofo, dywedodd ei fod e’n gyfrifol yno am roi trefn ar bleidiau gwleidyddol wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer etholiadau.

“Doeddwn i ddim yn gwybod fawr ddim yn strwythurau mewnol na llywodraethiant pleidiau gwleidyddol. Yr unig ffordd y gallwn i ddarganfod unrhyw beth oedd trwy ymuno ag un ohonyn nhw a doeddwn i ddim yn mynd i ymuno â’r Ceidwadwyr na Llafur ac fe es i, yn syml iawn, am yr un yn y canol, sef y Democratiaid Rhyddfrydol.”

Brexit?

Mae Henry Bolton wedi cyfaddef hefyd nad yw’n credu y bydd Brexit yn digwydd.

Dywedodd nad oes yna ddyhead ymhlith yr Undeb Ewropeaidd i gael “cytundeb esmwyth”, ac y byddai’n “eithriadol o anodd” i sicrhau telerau da.

Ychwanegodd na ddylid cael cyfnod di-ben-draw cyn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol.

Islam

Wrth drafod un o bynciau llosg rhai aelodau’r blaid, dywedodd na ddylid rhoi pwyslais ar wahardd y burka, gwisg draddodiadol Islam.

Dywedodd mai gwraidd y broblem oedd cuddio wynebau am resymau diogelwch – a bod hynny’n ymestyn i bob math o ddillad sy’n gallu cuddio wynebau.

“Yn amlwg, mae’r burka wedi ei gynnwys yn hynny.”