David Davis, yr Ysgrifennydd Brexit (Llun: Steve Punter CCA2.0)
Mae’r Ysgrifennydd Brexit David Davis a phrif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd, Michel Barnier, yn dweud bod cynnydd wedi bod yn y rownd ddiweddaraf o drafodaethau ond bod gwahaniaethau’n parhau rhwng y ddwy ochr.

Yn dilyn araith Theresa May yn Fflorens, lle’r oedd wedi cynnig y byddai Prydain yn parhau i gyfrannu at goffrau’r UE am ddwy flynedd wedi Brexit, dywedodd David Davis bod y trafodaethau ym Mrwsel wedi cymryd “camau cadarnhaol” ymlaen.

Serch hynny mae’r ddau ddyn yn cydnabod bod ’na wahaniaeth barn rhyngddyn nhw – gan gynnwys dyfodol hawliau dinasyddion.

Dywedodd bod araith y Prif Weinidog wedi arwain at drafodaethau cadarnhaol a’u bod wedi cael eglurder ynglŷn â rhai materion.

“Ond mae rhagor o waith i’w wneud gyda materion eraill, a dydyn ni ddim wedi cyrraedd yna hyd yn hyn,” meddai David Davis.