Ryanair Llun: PA
Mae Ryanair yn torri’r gyfraith yn y modd mae’n delio gyda’r sgandal o ganslo hediadau, yn ôl pennaeth rheoleiddiwr y diwydiant awyrennau yng ngwledydd Prydain.

Dywedodd Andrew Haines, prif weithredwr yr Awdurdod Hedfan Sifil ei fod yn “gandryll” gyda’r cwmni am nad yw’n dweud wrth deithwyr bod ganddyn nhw’r hawl i hedfan gyda chwmnïau eraill.

“Dydyn nhw ddim yn gwneud hawliau pobol yn glir. Os ydyn nhw’n parhau gyda’r hyn maen nhw’n dweud byddan nhw’n torri’r gyfraith,” meddai wrth raglen Today ar BBC Radio 4.

“… Rydym yn gandryll am nad ydyn nhw’n cydymffurfio â’r gyfraith.”

Dywedodd llefarydd ar ran Ryanair y bydd y cwmni yn cwrdd â’r Awdurdod Hedfan Sifil ac yn “cydymffurfio’n llawn gyda pha bynnag ofynion sydd eu hangen.”

Cefndir

Dydd Mercher, fe ganslodd Ryanair 18,000 o hediadau ychwanegol dros y gaeaf gan effeithio  400,000 o gwsmeriaid.

Mae’r cwmni bellach yn wynebu bil o filiynau o bunnoedd ar ôl iddi ddod i’r amlwg ei fod yn canslo hyd at 50 o deithiau’r dydd hyd at ddiwedd mis Hydref.

Yn ôl Ryanair, dechreuodd y ffwdan o achos camgymeriad gydag amserlenni gwyliau peilotiaid.