Llun: PA
Mae cwmni Ryanair wedi cyhoeddi eu bod nhw’n canslo 18,000 o deithiau ychwanegol, sy’n debygol o effeithio ar hyd at 400,000 o deithwyr.

Maen nhw ynghanol anghydfod â pheilotiaid tros eu hawl i gael gwyliau.

Mae 2,000 o deithiau eisoes wedi cael eu canslo, ac fe ddaeth cadarnhad y bydd 25 yn llai o awyrennau’r cwmni’n hedfan rhwng mis Tachwedd a mis Mawrth o ganlyniad.

Dywed y cwmni y bydd canslo’r teithiau’n golygu bod modd i beilotiaid gael rhagor o wyliau rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr, ac mae teithiau ar hyd 34 o lwybrau wedi cael eu canslo yn ystod y cyfnod hwnnw.

Pwysau ychwanegol

Fe fydd y cyhoeddiad diweddara’n rhoi mwy o bwysau ar y cwmni sydd eisoes dan y lach am ganslo hyd at 50 o deithiau bob dydd am hyd at chwe wythnos.

Yn ôl pennaeth y cwmni, Michael O’Leary, cafodd gwall ei wneud wrth gyfrifo gwyliau peilotiaid – ac mae’r gwall hwnnw wedi costio 25 miliwn Ewro hyd yn hyn.

Maen nhw’n hyderus bod y camau diweddara’n debygol o ddatrys y sefyllfa yn y dyfodol.

Ymddiheuriad

Maen nhw hefyd yn cynnig teithiau rhad ar gyfer misoedd y gaeaf, gan ddweud eu bod nhw’n hyderus na fydd rhagor o deithiau’n cael eu canslo.

Yn ôl y cwmni, dim ond 1% o’r teithwyr sydd wedi cael eu heffeithio gan y newid yn y cynlluniau, ac mae pawb sydd wedi cael eu heffeithio wedi derbyn llythyr yn rhoi gwybod iddyn nhw am y newidiadau ac yn cynnig ad-daliad iddyn nhw, ynghyd â thaleb gwerth 40 Ewro.

Mae Michael O’Leary wedi ymddiheuro am yr anghyfleustra, ac mae llefarydd wedi dweud nad yw’r cwmni’n bwrw ymlaen gyda’r cynllun i brynu’r cwmni Eidalaidd Alitalia, sydd wedi mynd yn fethdal.