Jeremy Corbyn, arweinydd Llafur, Llun: PA
Mae Llafur yn blaid “unedig” sy’n “ennill tir” trwy wledydd Prydain, yn ôl yr arweinydd Jeremy Corbyn.

Daeth ei sylwadau wrth iddo fe draddodi araith i gloi cynhadledd y blaid yn Brighton, flwyddyn yn unig ar ôl iddo fe frwydro i gadw ei swydd yn wyneb gwrthwynebiad o fewn y blaid.

Dywedodd Jeremy Corbyn fod y gynhadledd yn dangos “plaid unedig sy’n ennill tir ym mhob rhan o Brydain, gan ennyn hyder miliynau o’n cyd-ddinasyddion ac amlinellu ein syniadau a’n cynlluniau ar gyfer dyfodol ein gwlad ac ysbrydoli pobol o bob oed a chefndir”.

Addawodd y byddai Llywodraeth Lafur yn y dyfodol yn “gwneud newid drwy gydweithio a sefyll i fyny dros bawb”, gan gynnwys cau’r agendor cyflogau rhwng dynion a menywod, gan orfodi cwmnïau mawrion i gynnig yr un cyflog i’r ddau ryw.

Dywedodd fod y Llywodraeth Geidwadol yn dal ei gafael ar rym “gerfydd blaenau eu bysedd”, gan ddychanu slogan y blaid eu bod nhw’n “gryf a sefydlog”.

Roedd dyfodol y Gwasanaeth Iechyd, yr economi a newid hinsawdd ymhlith y pynciau eraill a gafodd sylw yn ei araith, ac fe ddywedodd y byddai “heddwch a chyfiawnder wrth wraidd ein polisi tramor”.

Brexit

Wrth grybwyll Brexit, dywedodd Jeremy Corbyn y byddai ei blaid yn magu perthynas “newydd ac adeiladol” ag Ewrop.

“Ry’n ni’n barod ac mae’n amlwg nad yw’r Torïaid yn barod.

“Dydyn nhw’n sicr ddim yn gryf ac yn bendant ddim yn sefydlog. Maen nhw’n dal wrthi gerfydd blaenau eu bysedd.”

Fe gyhuddodd e’r Llywodraeth Geidwadol o ddod o hyd i arian yn y “goeden hud” er mwyn sicrhau cefnogaeth y DUP i gynnal y llywodraeth.