Dylai mamau’r 1970au fod wedi derbyn rhybuddion am gyffur sydd bellach wedi niweidio miloedd o blant ledled y byd. 

Dyna glywodd arbenigwyr yn ystod gwrandawiad yr Asiantaeth Meddygaeth Ewropeaidd am y cyffur sodium valproate, yn Llundain ddydd Mawrth (Medi 26).

Mae’r cyffur yn cael ei ddefnyddio i drin epilepsi, pennau tost a chyflwr beipolar; ond yn medru achosi problemau i blant os ydy mamau yn ei gymryd yn ystod beichiogrwydd.

I blant sydd yn y groth tra bod eu mam yn cymryd y cyffur, mae yna risg rhwng 30% a 40% o ddatblygu problemau gan gynnwys awtistiaeth a niwed i’r ymennydd.

Er bod awdurdodau meddygol bellach yn cynghori menywod beichiog i beidio â chymryd y cyffur, mae dogfennau o 1973 yn dangos yr oedd rheoleiddwyr y cyfnod wedi dewis peidio â rhybuddio cleifion.

Mae gwneuthurwyr y cyffur, cwmni Sanofi, yn mynnu ei bod bob amser wedi bod yn agored am ei risgiau.