Cafodd 890 o bartneriaethau sifil eu ffurfioli yng Nghymru a Lloegr y llynedd, sy’n gynnydd o 3.4% o gymharu â 2015.

Dyma’r tro cyntaf i’r gyfradd flynyddol godi ers i briodasau o’r un rhyw gael eu cyflwyno yn 2013/2014.

Roedd mwy na dau draean o’r partneriaethau sifil (68%) yn briodasau rhwng dynion, gyda 49% yn bartneriaethau rhwng pobol 50 oed neu’n hŷn.

“Yn dilyn newid y ddeddfwriaeth i ganiatáu priodasau o’r un rhyw o fis Mawrth 2014, mae ffurfiadau partneriaethau sifil wedi gostwng wrth i fwyafrif y cyplau o’r un rhyw ddewis priodas yn lle,” meddai Nicola Haines ar ran y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

“Mae 2016 yn cyflwyno’r cynnydd cyntaf mewn partneriaethau sifil esr y newid, gan ddangos fod lleiafrif o gyplau o’r un rhyw yn parhau i ffafrio’r dewis hwn dros briodas,” meddai.

Ffigurau pellach

  • Yr oedran cyfartalog i ferched ffurfio partneriaeth sifil, yn seiliedig ar ddata 2016, oedd tua 50 oed o gymharu â dynion oedd â’r oedran cyfartalog o 48.6.
  • Llundain oedd y rhanbarth mwyaf poblogaidd gyda 38% o’r holl bartneriaethau sifil wedi’u ffurfio yno.
  • Cafodd 1,313 o ddiddymiadau partneriaeth sifil eu rhoi yng Nghymru a Lloegr yn 2016, gyda 60% o’r rheiny i gyplau benywaidd.