Nigel Farage (Llun: PA)
Mae cyn-arweinydd UKIP wedi beirniadu ymgyrchwyr “asgell-chwith dreisgar” wrth gefnogi ymgyrch gwleidydd dadleuol i ddod yn ymgeisydd ar gyfer sedd Alabama yn yr Unol Daleithiau.

Ymunodd Nigel Farage â Roy Moore yn Alabama ddydd Llun sy’n ceisio cael ei ethol yn ymgeisydd Gweriniaethol ar gyfer Senedd yr Unol Daleithiau.

Mae Roy Moore yn wleidydd dadleuol sydd wedi’i feirniadu am sylwadau yn erbyn priodasau o’r un rhyw gan ddweud yn 2005 y dylai “ymddygiad cyfunrywiol” fod yn anghyfreithlon.

Mae Nigel Farage yn mynd yn erbyn yr Arlywydd Donald Trump a’r Dirprwy Arlywydd Mike Pence sydd wedi rhoi eu cefnogaeth nhw i Luther Strange gael ei ethol yn ymgeisydd ar gyfer hen sedd twrnai cyffredinol y Tŷ Gwyn, Jeff Sessions.

Yn ei araith ddydd Llun dywedodd Nigel Farage – “mae yna rai eraill ar y chwith sy’n troi’n gynyddol i ffwrdd o’r broses ddemocrataidd tuag at brotest dreisgar, amhleserus a chas”.