Mae cwmni tacsis Uber yn “warthus”, yn ôl Canghellor y Blaid Lafur, John McDonnell.

Daw ei sylwadau ar ôl i’r cwmni golli ei drwydded i weithio yn Llundain yn dilyn yr hyn y mae arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn wedi ei alw’n “bryderon difrifol” am ddiogelwch teithwyr.

Ond yn ôl Jeremy Corbyn, mae gan y cwmni gyfle i wella’r gwasanaeth maen nhw’n ei gynnig, er i arweinydd undeb Unite, Len McCluskey ddweud bod Uber yn rhan o “ddiwylliant ras tua’r gwaelodion”.

‘Gwarthus’

Dywedodd John McDonnell wrth raglen Peston on Sunday ar ITV: “A’m llaw ar fy nghalon, dw i ddim yn meddwl ’mod i erioed wedi defnyddio Uber.

“Mae’r cwmni’n warthus. Rhaid i chi gadw at y gyfraith. Pe bai’r cwmni y tu allan i’r gyfraith, beth allai Transport for London ei wneud?

“Dw i’n credu mai’r cwmni sydd ar fai yma. Bedwar mis yn ôl, dywedwyd wrthyn nhw am roi trefn arnyn nhw eu hunain, ond wnaethon nhw ddim.”

Cyflog ac amodau gwaith

Mae Jeremy Corbyn wedi galw ar y cwmni i sicrhau bod eu staff yn derbyn cyflog da a bod amodau gwaith yn gwella.

“Mae yna broblem ynghylch diogelwch. Yn amlwg, mae’r cyhoedd yn gyffredinol eisiau mynediad chwim i dacsis o bob math, fe ddylai gael ei reoleiddio, dylid diogelu’r cyhoedd.”

Deiseb

Mae mwy na 600,000 o bobol wedi llofnodi deiseb yn galw am wyrdroi’r penderfyniad i beidio â rhoi trwydded i Uber weithio yn Llundain.

Mae’r cwmni wedi dweud eu bod nhw’n barod i gyfarfod â swyddogion Transport for London i drafod y penderfyniad i dynnu’r drwydded yn ôl.

Dywedodd llefarydd wrth y Sunday Times: “Hoffen ni wybod beth allwn ni ei wneud… i eistedd a chydweithio i gael hyn yn iawn.

“Dydyn ni ddim wedi cael cais i newid unrhyw beth.

“Hoffen ni wybod beth allwn ni ei wneud. Ond mae hynny’n gofyn am sgwrs nad ydyn ni wedi gallu ei chael.”

Mae’r bwlch sydd wedi ei adael gan Uber yn golygu bod cwmni Americanaidd, Lyft yn ystyried gwneud cais am y drwydded yn Llundain, yn ôl y Sunday Telegraph.