Emmanuel Macron, Arlywydd Ffrainc, (Llun: PA/Thibault Camus)
Mae arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, wedi rhybuddio’r Prif Weinidog Theresa May fod angen mwy o eglurder ganddi ar Brexit cyn y gall trafodaethau rhwng Prydain a’r Undeb Ewropeaidd symud ymlaen.

Roedd yn ymateb i araith Theresa May in Florence ddoe, pryd y dywedodd y Prif Weinidog y byddai Prydain yn dal i dalu i goffrau’r Undeb Ewropeaidd am gyfnod pontio o ddwy flynedd ar ôl Brexit yn 2019.

Er ei fod yn croesawu parodrwydd y Prif Weinidog i symud ymlaen, dywedodd Emmanuel Macron fod angen mwy o sicrwydd ynghylch hawliau dinasyddion yr UE ym Mhrydain, telerau ariannol Brexit, a’r ffin ag Iwerddon.

“Os na fydd eglurder ar y tri phwynt hyn, yna ni allwn symud ymlaen â’r gweddill,” meddai.

Torïaid yn anhapus

Mae’n ymddangos hefyd nad yw’r Prif Weinidog wedi llwyddo i fodloni cefnogwyr Brexit o’i phlaid ei hun chwaith.

Ymhlith yr ASau anfodlon mae Jacob Rees-Mogg, sy’n honni bod y Prif Weinidog wedi ildio gormod o dir i Frwsel yn ei hymdrech i geisio sicrhau cytundeb.

Roedd yn neilltuol o bryderus nad oedd Theresa May wedi’i gwneud yn glir a fyddai’r Deyrnas Unedig yn dal o dan awdurdodaeth Llys Cyfiawnder Ewrop yn ystod y cyfnod pontio.

“I mi, mae hyn yn fater cwbl sylfaenol,” meddai.

“Os byddwn yn dal yn ddarostyngedig i Lys Cyfiawnder Ewrop ar ôl mis Mawrth 2019, fyddwn ni ddim wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd a byddai hynny’n tanseilio’r refferendwm a gawsom yn 2016.”

Fodd bynnag, llwyddodd Theresa May i uno aelodau ei chabinet ddoe, gyda’r Ysgrifennydd Tramor Boris Johnson a’r Canghellor Philip Hammond yn canmol ei haraith.