Mae dyn 18 oed a gafodd ei arestio yn gysylltiedig ag ymosodiad brawychol yn Llundain, wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio ac o feddu ar ffrwydron.

Mae’r cyhuddiadau yn erbyn Ahmed Hassan, o Sunbury yn Surrey, yn gysylltiedig gydag ymosodiad bom ar drên tanddaearol yng ngorsaf Parsons Green yr wythnos diwethaf. 

Fe fydd y dyn 18 oed yn wynebu cyhuddiad o ddefnyddio deunydd cemegol peryglus i achosi ffrwydrad.

Bydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Westminster brynhawn ddydd Gwener.

Parhau i holi

Mae heddlu yn parhau i holi tri pherson, gan gynnwys llanc 17 blwydd oed, ynghylch yr ymosodiad lle cafodd 30 eu hanafu.

Cafodd dyn 48 blwydd oed o Gasnewydd ei ryddhau ddydd Mercher heb ei gyhuddo.