Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn lansio adolygiad heddiw er mwyn darganfod os oes angen cyfraith newydd i fynd i’r afael â seiclo peryglus.

Daw’r adolygiad yn sgil achos llys seiclwr, Charlie Alliston, a laddodd ddynes 44 oed, Kim Briggs, trwy wrthdaro â hi wrth iddi groesi heol yn nwyrain Llundain.

Fe’i cfwyd yn ddieuog o ddynladdiad,ond derbyniodd dedfryd o ddeunaw mis dan glo wedi iddo gael ei farnu’n euog o achosi niwed corfforol trwy “yrru’n gynddeiriog”.

Cafodd ei farnu’n euog o’r drosedd Fictorianaidd – trosedd gfodd ei sefydlu i fynd i’r afael â marchogaeth peryglus – oherwydd nad oes cyfraith seiclo sy’n gyfwerth â honno am yrru car yn beryglus.

“Wynebu’r un cosbau”

“Mae eisoes gennym ni deddfau llym sydd yn sicrhau bod gyrwyr sydd yn peryglu bywydau eraill yn cael eu cosbi,” meddai’r Gweinidog Trafnidiaeth, Jesse Norma.

“Ond, o ystyried achosion diweddar, mae hi ond yn iawn ein bod ni’n ystyried os ddylai seiclwyr peryglus wynebu’r un cosbau.”