Mae chweched unigolyn wedi cael ei arestio yn gysylltiedig ag ymosodiad brawychol ar drên tanddaearol yn Llundain yr wythnos ddiwethaf.

Cafodd y llanc 17 oed ei ddal gan heddlu wedi iddyn nhw gynnal chwiliadau mewn adeilad yn Thornton Heath, de Llundain fore heddiw (Medi 21).

Mae’r chwech unigolyn yn parhau i fod yn y ddalfa mewn gorsaf heddlu yn ne Llundain, yn ôl Scotland Yard.

Cafodd 30 o bobol eu hanafu pan ffrwydrodd dyfais ar drên yng ngorsaf Parsosns Green ar Fedi 15.

Daw’r arestiad diweddaraf yn sgil arestiad tri dyn – 25, 30 a 48 blwydd oed – yng Nghasnewydd ddydd Mercher (Medi 20).

“Chwiliadau’n parhau”

“Mae hyn yn parhau i fod yn ymchwiliad sydd yn datblygu’n gyflym,” meddai llefarydd ar ran Heddlu’r Met. “Mae tipyn o waith wedi ei gyflawni ers ymosodiad ddydd Gwener.

“Bellach, mae gennym chwe unigolyn yn y ddalfa ac mae’r chwiliadau yn parhau mewn pum cyfeiriad. Mae ditectifs yn cynnal ymchwiliadau eang er mwyn dod o hyd i’r ffeithiau.”