Llun: Gwefan Ryanair
Mae cwmni teithiau awyr Ryanair wedi cyhoeddi rhestr lawn o’r teithiau y maen nhw’n bwriadu eu canslo dros yr wythnosau nesaf.

Bydd y cwmni yn canslo hyd at 50 taith awyr bob dydd dros y chwe wythnos nesaf, oherwydd bod gormod o beilotiaid ar wyliau dros y cyfnod prysur yma.

Yn ôl Ryanair, bydd cwsmeriaid sydd wedi cael eu heffeithio yn derbyn cynigion am deithiau eraill neu’n medru derbyn iawndal.

Mae’r cwmni yn wynebu gorfod talu hyd at £17.7miliwn mewn taliadau iawndal.

Bydd hediadau fydd yn cyrraedd a gadael sawl maes awyr yn cael eu heffeithio gan gynnwys meysydd awyr yn Nulyn,  Stansted yn Llundain, Barcelona a Lisbon.

“Yn amlwg bydd hyn yn cael effaith mawr ar ein henw fel cwmni,” meddai Prif Weithredwr Ryanair, Michael O’Leary. “Unwaith eto, dw i’n ymddiheuro am hyn. Wnawn ni ymdrechu i fod yn well yn y dyfodol.”