Wayne Rooney, (Llun: Barrington Coombs/PA Wire)
Mae’r pêl-droediwr Wayne Rooney wedi cael ei wahardd rhag gyrru a gorchymyn i wneud gwaith cymunedol di-dâl ar ôl pledio’n euog i gyhuddiad o yfed a gyrru.

Ar ôl cael ei ddedfrydu fe ymddiheurodd chwaraewr Everton a chyn-gapten tîm Lloegr am y digwyddiad wedi iddo gael ei ddal pan oedd bron i deirgwaith dros y cyfyngder yfed a gyrru tra ar noson allan.

Cafodd ei stopio gan yr heddlu wrth yrru car Volkswagen Beetle dynes yn Wilmslow, Swydd Gaer am 2yb ar 1 Medi. Roedd ei wraig, Coleen, sy’n feichiog, a’u tri mab ar eu gwyliau ar y pryd.

Cafodd Wayne Rooney, 31, ei arestio’n ddiweddarach a’i ryddhau ar fechnïaeth ac fe ymddangosodd yn Llys Ynadon Stockport bore ma.

Cafodd ei wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd a gorchymyn i wneud 100 awr o waith di-dâl fel rhan o orchymyn cymunedol a fydd yn para am 12 mis.

Roedd hefyd wedi cael gorchymyn i dalu costau o £85.

‘Ymddiheuro’

Mewn datganiad dywedodd ei fod eisiau “ymddiheuro’n gyhoeddus am fy niffyg doethineb anfaddeuol am yrru tra roeddwn dros y cyfyngder yfed a gyrru. Roedd yn hollol anghywir.

“Dwi eisoes wedi ymddiheuro wrth fy nheulu, fy rheolwr a chadeirydd a phawb yn Everton.

“Nawr, dwi eisiau ymddiheuro wrth y cefnogwyr a phawb arall sydd wedi dilyn a chefnogi fy ngyrfa. Wrth gwrs, rwy’n derbyn dedfryd y llys.”