Amber Rudd, yr Ysgrifennydd Cartref, (Llun: Stefan Rousseau/PA Wire)
Mae’r bygythiad o ymosodiadau brawychol yn y Deyrnas Unedig wedi cael ei israddio ar ôl i ddau berson gael eu harestio mewn cysylltiad â’r ffrwydrad yn Parsons Green.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Amber Rudd bod yr heddlu wedi gwneud “cynnydd da” yn yr ymchwiliad a bod y bygythiad i’r DU bellach wedi cael ei israddio o’r lefel uchaf posib.

Ond ychwanegodd bod lefel y bygythiad yn “parhau’n debygol iawn felly byddwn yn annog pawb i barhau i fod yn wyliadwrus ond i beidio â bod ofn.”

Daw hyn ar ôl i ddyn 21 oed gael ei arestio yn Hounslow am 11.50yh nos Sadwrn.

Mae timau fforensig yn archwilio tŷ yn Stanwell, Surrey mewn cysylltiad â’r dyn sydd wedi’i arestio, meddai Scotland Yard.

Cafodd dyn 18 oed ei arestio ym mhorthladd Dover fore dydd Sadwrn. Mae’n parhau yn y ddalfa yng ngorsaf yr heddlu yn Llundain.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref ei bod yn ymddangos nad oedd y bomiwr yn gweithredu ar ei ben ei hun ond ei bod yn “rhy gynnar i ddod i unrhyw gasgliadau am hynny.”

Mae prif swyddog gwrth-frawychiaeth y Deyrnas Unedig, y Dirprwy Gomisiynydd  wedi deud eu bod wedi cael “dealltwriaeth well o’r modd y cafodd y ddyfais ei pharatoi.”

Ychwanegodd y bydd heddlu arfog yn parhau’n bresenoldeb amlwg ar draws gwledydd Prydain hyd at wythnos nesaf.