Syr Vince Cable
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Syr Vince Cable wedi mynnu ei fod yn ymgeisydd credadwy i fod yn brif weinidog.

Er gwaetha’r ffaith bod gan ei blaid 12 Aelod Seneddol yn unig, dywedodd y gallai disodli Theresa May yn Downing Street.

Fe wnaeth ei sylwadau ar raglen The Andrew Marr Show ar BBC1gan ddweud bod yna wrthdaro o fewn y Blaid Geidwadol a’r Blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol oedd y “dewis arall.”

Mae’r cyn-ysgrifennydd busnes yn defnyddio cynhadledd y blaid yn Bournemouth i sefydlu’r Democratiaid Rhyddfrydol fel y blaid a fydd yn rhoi llais i’r bobl oedd eisiau aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Syr Vince Cable nad oedd agweddau pobl wedi newid llawer ers y refferendwm Brexit ond fe fyddai hynny’n newid unwaith i realiti’r effeithiau economaidd o adael yr UE ddod i’r amlwg.