Awyren Ryanair (Llun: Gwefan Ryanair)
Mae teithwyr gyda chwmni awyrennau Ryanair wedi mynnu eu bod yn cael rhagor o eglurder am deithiau sydd wedi’u canslo.

Mae’r cwmni wedi cyhoeddi rhestr o hediadau ar gyfer dydd Sul yn unig er gwaetha’r ffaith eu bod wedi cyhoeddi bod rhwng 1,500 a 2,000 o deithiau wedi’u canslo dros y chwe wythnos nesaf.

Mae pedwar taith i Ddulyn ac 11 i Lundain ymhlith 82 o hediadau sydd wedi’u canslo ddydd Sul.

Dywed y cwmni eu bod wedi anfon e-bost at unrhyw un a oedd wedi bwcio taith hyd at ddydd Mercher, 20 Medi ac sydd wedi cael eu canslo ond nid yw wedi dweud pryd y bydd pobl sydd wedi bwcio i deithio ar ôl y dyddiad yna yn cael gwybod.

Mae teithwyr wedi cyhuddo Ryanair o’u trin yn “erchyll” ac wedi mynnu eu bod yn cyhoeddi rhestr lawn o’r hediadau fydd yn cael eu canslo dros y chwe wythnos nesa er mwyn i bobl wneud trefniadau eraill.

Ddydd Sadwrn, fe gyhoeddodd Ryanair eu bod yn canslo hyd at 50 o hediadau bob dydd hyd at ddiwedd mis Hydref am eu bod wedi gwneud camgymeriad wrth drefnu gwyliau i beilotiaid.

Dywedodd prif swyddog marchnata Ryanair, Kenny Jacobs, eu bod yn “gweithio’n galed i ddatrys” y broblem.