Porthladd Dover
Mae dyn yn ei arddegau wedi’i arestio yn Dover, dan amheuaeth o fod â chysylltiad â’r ymosodiad brawychol ar dren tanddaearol yn Parsons Green, Llundain, ddoe.

Fe ddaeth cadarnhad gan Heddlu Caint fod y dyn 18 oed wedi’i rwystro yn ardal porthladd Dover ben bore Sadwrn, a’i fod wedi’i ddwyn i’r ddalfa.

Fe fydd yn cael ei drosglwyddo i swyddfa heddlu yn Llundain o fewn yr oriau nesaf, meddai Heddlu’r Met wedyn.