Mae’n ymddangos bod 
teithwyr ar drenau tanddaearol Llundain wedi cael eu niweidio yn dilyn ffrwydrad mewn trên yn ne orllewin y ddinas.

Cafodd heddlu a pharafeddygon eu galw i orsaf Parsons Green yn Fulham am 8.20 y bore yma. Bellach mae’r orsaf wedi ei chau.

Mae lluniau ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos bwced ar dân mewn bag siopa ar lawr y trên. Nid yw’n ymddangos bod y trên wedi ei difrodi rhyw lawer.

Yn ôl Scotland Yard, mae’r ffrwydrad yn cael ei drin fel digwyddiad brawychol.

Mae swyddogion yr Heddlu Metropolitan, Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig, Brigâd Dân Llundain a Gwasanaeth Ambiwlans Llundain wedi eu danfon i’r orsaf.

Tystion

Roedd pobol “wedi eu gorchuddio â gwaed” yn sgil y digwyddiad, yn ôl tystion.

“Cerddais i mewn i’r orsaf ac mi’r oedd yna waed ar y llawr a phobol yn rhedeg i lawr y grisiau yn sgrechain: ‘Ewch allan’,” meddai’r teithiwr, Robyn Frost wrth y BBC.

“Roedd pobol yn gadael yr orsaf wedi eu gorchuddio â gwaed.”

Mewn un fideo cafodd ei ffilmio wedi’r ffrwydrad mae un fenyw yn dweud: “Roeddwn yn medru ei weld ar ben arall y trên … roedd e’n edrych fel pelen dân.”