Mae ymgynghorydd cyfreithiol pennaf Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn galw am dystiolaeth arbenigol i weld os ydy’r cyfryngau cymdeithasol yn dylanwadu ar achosion llys.

Mae’r Twrnai Cyffredinol, Jeremy Wright, yn apelio ar i grwpiau dioddefwyr, cyfreithwyr a barnwyr i ddarparu tystiolaeth sy’n dangos effaith y cyfryngau cymdeithasol.

Bydd ei swyddfa yn casglu tystiolaeth o byst ar-lein sydd wedi mynd yn groes i orchmynion llys, ac mi fydd adroddiad yn cael ei sefydlu er mwyn sefydlu os oes angen cyflwyno diwygiadau.

Cyfryngau

“Pwrpas ein cyfreithiau dirmyg llys yw lleihau dylanwad y cyfryngau ar dreialon, ond, ydyn nhw’n medru diogelu rhag dylanwad cyfryngau cymdeithasol?” meddai Jeremy Wright.

“Dw i’n chwilio am dystiolaeth arbenigol sydd yn dangos os ydy cyfyngau cymdeithasol yn dylanwadu treialon llys, ac os ydyn nhw, dw i am ddarganfod os ydy’r sustem yn medru rheoli’r risg.”