Ta-ta i'r hen ddecpunt (Llun: Banc Lloegr/PA Wire)
Mae papurau £10 newydd wedi dechrau cael eu rhyddhau’n swyddogol gan y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant.

Yn debyg i’r nodyn £5 sydd eisoes wedi ei gyhoeddi, mae’r papur diweddaraf yma gan Fanc Lloegr wedi ei wneud o ddefnydd polymer. 

Mae gan y nodynnau newydd ddotiau arnyn nhw fydd yn galluogi pobol ddall neu sydd â golwg gwael, i’w defnyddio.

Mae ychydig dros biliwn o’r nodynnau polymer eisoes wedi eu bathu.

Bydd modd defnyddio’r papur £10 presennol  tan Wanwyn 2018 ac mae disgwyl i nodyn £20 newydd gael ei gyflwyno yn 2020.

‘Diogel, cryf a glan’ 

“Bydd y £10 newydd wedi ei brintio ar bolymer, ac mi fydd hyn yn ei wneud yn fwy diogel, yn gryfach, ac yn fwy glan,” meddai Llywodraethwr Banc Lloegr, Mark Carney.

“Bydd gan y nodyn nodwedd newydd fydd yn cynorthwyo pobol sydd â phroblemau ar eu golwg, gan alluogi bod arian y genedl mor gynhwysol ag sydd yn bosib.”