Mae cadeirydd yr ymchwiliad cyhoeddus i dân Tŵr Grenfell wedi sicrhau’r sawl gafodd eu heffeithio gan y trychineb y bydd yn canfod atebion.

Wrth siarad â’r dioddefwyr a pherthnasau’r sawl a gollodd eu bywydau, dywed Syr Martin Moore-Bick, ei fod yn gobeithio y gallai’r ymchwiliad “gynnig rhywfaint o gysur” yn dilyn colli o leia’ 80 o fywydau yn y tân.

Cyn i’r ymchwiliad ddechrau, bu munud o dawelwch yn y Grand Connaught Rooms yn Holborn, yng nghanol Llundain.

Dywed y cyn farnwr yn y Llys Apêl bod “yr ymchwiliad yn gallu ac y bydd yn cynnig atebion i’r cwestiynau o sut y gall trychineb o’r math ddigwydd yn Llundain yn yr 21ain ganrif”.

Fe wnaeth Syr Martin wrthod galwadau i gynnwys goroeswyr fel un o aseswyr yr ymchwiliad gan ddweud y gallai hynny “danseilio” ei allu i fod yn ddiduedd.

Bydd yr ymchwiliad yn edrych ar achosion y tân, ymateb y cyngor lleol, a’r gwaith adnewyddu ar Dŵr Grenfell, sy’n cael ei amau o fod yn un o’r rhesymau pam ledodd y tân mor gyflym.