Tŵr Grenfell yn Kensington, Llundain wedi'r tân (Llun: Dominic Lipinski/PA Wire)
Mae ymchwiliad cyhoeddus i drychineb tân Tŵr Grenfell – lle bu farw 80 o bobol ym mis Mehefin – wedi dechrau’n swyddogol.

Bydd yr ymchwiliad yn mynd i’r afael â’r hyn wnaeth achosi’r tân, rheoliadau fflatiau tŵr, ymateb yr awdurdod lleol a chladin y tŵr.

Cafodd munud o dawelwch ei gynnal yn ystod diwrnod cyntaf yr ymchwiliad er cof am yr unigolion bu farw, a bydd gorymdaith dawel yn cael ei gynnal yn hwyrach.

Yn ôl Cadeirydd yr ymchwiliad, Syr Martin Moore-Bick, “mae atebion yn medru ac yn mynd i gael eu darparu”, ond mae’n rhaid mynd i’r afael ag atebion mewn modd “digynnwrf a rhesymol.”

“Wyneb i waered”

“Dw i’n ymwybodol bod bywyd wedi troi’n wyneb i waered i bobol Gogledd Kensington dros y misoedd diwethaf,” meddai Martin Moore Bick.

“A dw i’n ymwybodol bod cyn-breswylwyr y tŵr a phobol leol yn teimlo dicter a’u bod wedi eu bradychu.

“Mae hynna’n hollol naturiol a dealladwy, ond os ydyn ni’n mynd i ddarganfod beth ddigwyddodd, rhaid chwilio am dystiolaeth mewn modd digynnwrf a rhesymol.”