Twr Grenfell (Llun: Wikipedia)
Dim ond 2% o dyrau tai cymdeithasol yng ngwledydd Prydain sydd â system chwistrellu dŵr, yn ôl ymchwil newydd.

Daw’r ymchwil ar drothwy’r ymchwiliad cyhoeddus i’r hyn oedd wedi achosi’r tân yn Nhŵr Grenfell.

Yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan y BBC, fe ddaeth i’r amlwg fod gan 68% o’r blociau sydd o dan ofal cynghorau a chymdeithasau tai un set o risiau yn unig i’w defnyddio mewn argyfwng.

Dim ond 30% o’r blociau oedd â chladin, ond nid o reidrwydd y math oedd yn cael ei ddefnyddio yn Nhŵr Grenfell.

Ers 2007, mae systemau chwistrellu dŵr yn orfodol mewn adeiladau uchel newydd sydd dros 30 metr yn Lloegr, ond dyw’r rheol ddim yn berthnasol i hen flociau. 

Bydd y gwrandawiad cyntaf fel rhan o’r ymchwiliad cyhoeddus i’r tân yn Nhŵr Grenfell yn cael ei gynnal ddydd Iau (Medi 14).