Mae Llywodraeth Prydain wedi penderfynu cael gwared â’r cap ar gyflogau’r sector cyhoeddus.

Daw hyn wrth i weinidogion gymeradwyo codiad cyflog cyfartalog o 1.7% i swyddogion carchar ynghyd â gwelliannau i gyflogau’r heddlu o 2% ar gyfer 2017/2018.

Am y saith mlynedd diwethaf, mae’r cap wedi cyfyngu codiad cyflogau’r sector cyhoeddus i uchafswm o 1%.

Dywedodd llefarydd ar ran Theresa May y bydd y llywodraeth yn dangos “hyblygrwydd” mewn rhannau o’r sector sydd wedi profi problemau gyda recriwtio a sgiliau ar gyfer 2018/2019.