Llun: PA
Mewn pleidlais yn Senedd San Steffan neithiwr fe gafodd Mesur Diddymu’r Undeb Ewropeaidd ei gymeradwyo.

Mae’r Prif Weinidog, Theresa May, wedi disgrifio’r canlyniad yn un “hanesyddol,” ac mae’n golygu y gall trafodaethau Brexit symud ymlaen i’r cam nesaf.

Mae’r Mesur Diddymu yn golygu y bydd cyfreithiau’r Undeb Ewropeaidd yn cael eu trawsosod yn gyfreithiau gwledydd Prydain.

Ond mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, wedi disgrifio hynny’n ymgais i “gipio pwerau” ac roedd wedi galw ar Aelodau Seneddol Llafur i’w wrthwynebu.

Er hyn, fe ddaeth hi i’r amlwg neithiwr fod saith Aelod Seneddol Llafur wedi cefnogi’r mesur gyda 13 yn atal eu pleidlais.

Mae Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r SNP wedi beirniadu’r aelodau hynny am weithio “law yn llaw” gyda’r Ceidwadwyr gan arwain at bleidlais derfynol o 326 i 290.

‘Symud ymlaen’

Mewn datganiad wedi’r bleidlais dywedodd Theresa May: “Er bod mwy i’w wneud, mae’r penderfyniad hwn yn golygu y gallwn symud ymlaen gyda’r trafodaethau gyda seiliau cadarn ac rydym yn parhau i annog Aelodau Seneddol o bob rhan o’r Deyrnas Unedig i weithio gyda’n gilydd i gefnogi’r darn hollbwysig hwn o ddeddfwriaeth.”