Mae gyrrwr lori sydd wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth wyth person mewn gwrthdrawiad ar draffordd yr M1, wedi ymddangos gerbron llys.

Ymddangosodd David Wagstaff, 53, o Stroke-on-Trent, gerbron Llys Ynadon Milton Keynes fore ddydd Llun (Medi 11).

Mae’n wynebu wyth cyhuddiad o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus, a phedwar cyhuddiad o achosi anafiadau difrifol trwy yrru’n beryglus, yn gysylltiedig â’r ddamwain ar ŵyl y banc ym mis Awst.

Ni wnaeth David Wagstaff gynnig ple. Bydd ei achos yn cael ei drosglwyddo yn awr i Lys y Goron Aylesbury, lle bydd yn ymddangos ar Fedi 26.

Cafodd David Wagstaff ei ryddhau ar fechnïaeth amodol.

Bws mini

Mae’r gyrrwr Pwylaidd, Ryszard Masierak, 31, eisoes wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon High Wycombe yn gysylltiedig â’r gwrthdrawiad.

Y gred yw bod gyrrwr bws mini wedi gwrthdaro â lori wrth geisio osgoi cerbyd Ryszard Masierak. Bu farw gyrrwr y bws mini ynghyd â phum dyn arall, a dwy ddynes.