Holyrood, Senedd yr Alban (Llun: SNP)
Mae’n ugain mlynedd i’r diwrnod ers i’r Alban bleidleisio dros ddatganoli a chreu ei senedd ei hun.

Yn ôl Syr Alex Fergusson, cyn-Lywydd y Senedd yn Holyrood – “mae meddwl am yr Alban heb ei senedd ei hun bellach yn annychmygol.”

Ers 1997 mae’r Senedd wedi cyflwyno deddfau gan gynnwys gofal personol am ddim i’r henoed, arwain y Deyrnas Unedig wrth wahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus ynghyd â diddymu ffioedd i fyfyrwyr yr Alban.

“Mae gennym nawr bron genhedlaeth lawn o bobol ifanc nad sy’n adnabod bywyd heb Senedd yr Alban,” meddai Alex Fergusson.

‘Nodwedd fawr’

Cafodd pwerau pellach dros drethu eu cyflwyno i’r Alban yn dilyn y refferendwm annibyniaeth, ac yn ôl Jack McConnell, cyn Brif Weinidog yr Alban gyda’r Blaid Lafur – mae’r senedd wedi “sylweddoli ei photensial.”

“Rwy’n credu mai un o’r pethau mwyaf hynod am Senedd yr Alban yw sut mae wedi symud o’i gread o fod yn un o faterion mwyaf dadleuol gwleidyddiaeth yr Alban a Phrydain trwy gydol yr 1980au a’r 1990au i fod yn gonsensws cenedlaethol” gan ychwanegu ei fod bellach yn “nodwedd fawr o fywyd pob dydd yn yr Alban.”

Fe fydd Cymru yn dathlu ugain mlynedd ers datganoli yr wythnos nesaf, pan gafodd y refferendwm ei chynnal ar 18 Medi 1997.

Fe fydd rhaglen arbennig, Huw Edwards: Datganoli 20 ar S4C nos Fawrth, 19 Medi.