David Davis, yr Ysgrifennydd Brexit (Llun: Steve Punter CCA2.0)
Byddai pleidleisio yn erbyn y Mesur Diddymu yn creu “anhrefn,” yn ôl David Davis, Ysgrifennydd Brexit Llywodraeth Prydain.

Daw ei rybudd wrth i Lafur gyhoeddi y byddan nhw’n pleidleisio yn erbyn y ddeddfwriaeth gan ddadlau y byddai’n arwain at rai mesurau’n cael eu haddasu heb archwiliad seneddol yn ogystal ag ymgais i gipio pwerau.

Mae disgwyl i Aelodau Seneddol bleidleisio ar y mesur fyddai’n arwain at adael yr Undeb Ewropeaidd ddydd Mawrth, Medi 12.

Mesur Diddymu

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cadarnhau y byddan nhw’n gwrthwynebu’r mesur, ond mae tua 12 o Aelodau Seneddol Llafur yn ystyried mynd yn erbyn galwad Jeremy Corbyn a chefnogi’r mesur.

Mae disgwyl i Aelodau Seneddol Ceidwadol gefnogi’r mesur er bod rhai wedi mynegi pryderon amdano, gan ychwanegu y byddan nhw’n barod i groesawu gwelliannau yn ystod y camau nesaf.

Fe fydd y Mesur Diddymu yn dadwneud Deddf 1972 a arweiniodd at Brydain yn dod yn rhan o’r Gymuned Economaidd Ewropeaidd gan ymgorffori cyfreithiau’r Undeb Ewropeaidd.

‘Ansicrwydd’

“Mae busnesau ac unigolion angen cadarnhad na fydd newidiadau annisgwyl i’n cyfreithiau ar ôl y dydd y byddwn yn gadael a dyna’n union beth mae’r bil diddymu yn ei ddarparu,” rhybuddiodd David Davis.

Dywedodd y byddai peidio â’i gefnogi yn creu “ansicrwydd” a “dyna pam rwy’n annog holl ASau o holl rannau’r Deyrnas Unedig i ddod ynghyd i gefnogi’r ddeddfwriaeth hollbwysig fel ein bod yn gallu gadael yr Undeb Ewropeaidd yn gwybod yn ddiogel ein bod yn barod ar gyfer diwrnod cynta’r gadael.”