Mae’r cyn-Brif Weinidog Llafur, Tony Blair wedi galw am reolau mewnfudo newydd a allai olygu y byddai modd i Brydain aros yn yr Undeb Ewropeaidd er gwaethaf canlyniad y refferendwm.

Wrth gyfaddef nad yw’r drefn a gafodd ei chyflwyno gan ei lywodraeth ei hun yn addas bellach, mae e wedi ychwanegu ei enw at adroddiad yn galw am reolau llymach a thrafod rhyddid trigolion i symud rhwng gwledydd yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd y byddai hynny’n bodloni dymuniad y bobol oedd wedi pleidleisio tros adael yr Undeb Ewropeaidd, ond yn galluogi Prydain i aros o fewn y drefn Ewropeaidd ar yr un pryd.

Mae e wedi galw ar y Blaid Lafur a Jeremy Corbyn i gefnogi ei alwad mewn ymgais i ddatrys yr anawsterau sy’n cael eu hachosi wrth geisio rhoi trefn ar faterion economaidd a mewnfudo ar yr un pryd.

Y farchnad sengl

Yn ôl Prif Weinidog Prydain, Theresa May, mewnfudo yw ei phrif flaenoriaeth yn y trafodaethau i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond mae Brwsel yn mynnu bod rhaid gadael y farchnad sengl pe bai Brexit yn mynd rhagddo.

Mewn erthygl yn y Sunday Times, dywedodd Tony Blair: “Does dim gwyriad posib oddi ar Brexit heb fynd i’r afael â’r anfodlonrwydd a arweiniodd ato.

“Yn baradocsaidd, rhaid i ni barchu’r bleidlais refferendwm er mwyn ei newid.

“Gallwn gwtogi’r pethau y mae pobol yn teimlo sy’n niweidiol am fewnfudo Ewropeaidd, drwy newid polisïau domestig a thrwy gytuno ar newid o fewn Ewrop.

“Dyma’r union diriogaeth y dylai’r Blaid Lafur wersylla arni.”

Bai ar Blair?

Tony Blair, ar y cyfan, sy’n cael y bai gan bobol oedd wedi pleidleisio tros adael yr Undeb Ewropeaidd am y niferoedd uchel o fewnfudwyr yng ngwledydd Prydain, a hynny am nad oedd e wedi gweithredu ar reolau newydd i leihau’r niferoedd pan ymunodd gwledydd newydd yn 2004.

Bryd hynny, fe ddywedodd fod yr economi’n gryf a bod angen gweithwyr yng ngwledydd Prydain.

Ond fe ddywedodd yn ei erthygl heddiw “na ellir anwybyddu” ffactorau diwylliannol, cyflogau is a’r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus.

Adroddiad

Yn ôl y Sunday Times, mae adroddiad gan Sefydliad Tony Blair, sydd wedi cael ei lunio gan gyn-arbenigwr polisïau Downing Street, Harvey Redgrave, yn galw ar Lywodraeth Prydain i:

  • orfodi mewnfudwyr i gofrestru wrth gyrraedd gwledydd Prydain fel bod modd asesu eu gallu i weithio neu astudio – mae’r drefn honno eisoes ar waith yng Ngwlad Belg
  • gorfodi trigolion o wledydd yr Undeb Ewropeaidd i ddangos tystiolaeth eu bod nhw wedi cael cynnig gwaith cyn dod i wledydd Prydain
  • gwahardd unrhyw un sydd heb ganiatâd i fod yng ngwledydd Prydain rhag rhentu tai, agor cyfrif banc a chael mynediad i fudd-daliadau
  • cyflwyno rheoliadau newydd yn atal mewnfudwyr o wledydd yr Undeb Ewropeaidd rhag cael gofal iechyd rhad ac am ddim os ydyn nhw’n economaidd anweithgar
  • galluogi prifysgolion i godi ffioedd uwch ar fyfyrwyr o wledydd yr Undeb Ewropeaidd na myfyrwyr o wledydd Prydain
  • trafod newid rheolau symud yn rhydd er mwyn atal pobol rhag dod i wledydd Prydain pe bai gwasanaethau cyhoeddus dan ormod o bwysau – roedd y cyn-Brif Weinidog David Cameron yn awyddus i sicrhau hyn cyn cynnal y refferendwm

Dywedodd Tony Blair y byddai parhau â Brexit “fel tîm yn chwe safle uchaf Uwch Gynghrair Lloegr yn penderfynu chwarae yn y Bencampwriaeth yn unig”.

Ychwanegodd mai Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump yw’r unig arweinydd ymhlith prif gynghreiriaid Prydain sy’n credu bod Brexit yn “unrhyw beth ond niweidiol”.