Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Syr Vince Cable wedi rhybuddio bod rhai gweision sifil a gwleidyddion yn rhagweld y “trychineb” a allai godi yn sgil Brexit.

Dywedodd eu bod yn sylweddoli nad oes gan Brydain fawr o ddylanwad ar y trafodaethau, ac felly eu bod yn gofidio am y dyfodol.

Fe ddaeth ei sylwadau wrth i filoedd o bobol ymgasglu ar gyfer rali gwrth-Brexit yng nghanol Llundain.

Dywedodd Syr Vince Cable wrth y Press Association fod rhai pobol “wedi ffieiddio oherwydd maen nhw’n gweld y potensial am drafodaethau trychinebus” ac yn “sylweddoli nad oes gan Brydain fawr o ddylanwad yn y trafodaethau hyn ac yn gofidio am ddyfodol y wlad, fel y mae’r bobol hyn [yn y rali] rwy’n sicr”.

Gwleidyddion

Ychwanegodd fod rhai gwleidyddion yn “cyd-fynd â Brexit oherwydd maen nhw’n dweud ‘wel, fe bleidleisiodd pobol yn fy etholaeth drosto fe’ ond mewn gwirionedd, maen nhw’n gofidio’n arw am y canlyniadau, fel y mae pobol hefyd nad ydyn nhw’n wleidyddol.”

Mae disgwyl i Aelodau Seneddol bleidleisio ar delerau gadael yr Undeb Ewropeaidd yn y Mesur swyddogol ddydd Llun.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson ddydd Gwener fod Llywodraeth Prydain yn awyddus i basio’r ddeddf cyn gynted â phosib, gan awgrymu bod Erthygl 50 yn gofyn am drafod y berthynas ag Ewrop ochr yn ochr â materion eraill fel hawliau trigolion, setliad ariannol a ffiniau Iwerddon.

Ond mae eraill wedi beirniadu Llywodraeth Prydain, gan awgrymu mai masnach fydd y flaenoriaeth i Lywodraeth Prydain erbyn mis nesaf.

Yn y cyfamser, mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May wedi wfftio honiadau y gallai hi ddiswyddo gweinidogion neu aelodau staff sydd ynghlwm wrth lythyr a gafodd ei lofnodi gan 30 i 40 o Aelodau Seneddol Ceidwadol yn amlinellu’r galw am ‘Brexit caled’, yn groes i bolisi ei llywodraeth.