Mae plant yn cael eu gorfodi i weithio mewn ffatrïoedd canabis a chael eu defnyddio at ddibenion rhywiol, meddai elusen sydd am dynnu sylw at ‘broblem gudd’.

Yn ôl yr NSPCC mae plant yn cael eu trin fel caethweision gan ddihirod yng ngwledydd Prydain ac yn gorfod wynebu caledi ofnadwy.

Mae tîm gafodd ei sefydlu gan yr elusen ddegawd yn ôl i ymdrin ag achosion o werthu plant, wedi derbyn bron i 2,000 o geisiadau am help, gyda babis bach ymysg y rhai yn cael eu heffeithio.

Oherwydd natur gudd y fasnach gwerthu plant, mae’n debyg nad ydyn nhw yn gwybod am chwarter yr hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd.

Yn ôl yr NSPCC roedd un o bob pump o’r plant fuon nhw yn helpu o Fietnam, ac roedd plant wedi eu gwerthu hefyd yn hanu o Rwmania, Nijeria ac Afghanistan.