Mae dyn wedi’i gyhuddo o drosedd frawychol, yn dilyn cyrchoedd ar dai yn Warrington.

Mae Rabar Mala, 32, wedi’i gyhuddo o fod â thai ac adeiladau at ddibenion brawychol – trosedd dan Adran 16 o Ddeddf Terfysgaeth 2000.

Fe fydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Westminster yn Llundain fory (dydd Gwener, Medi 1).

Mewn datganiad, fe gadarnhaodd Heddlu Greater Manchester fod swyddogion wedi cael gwarantau i chwilio cyfeiriadau yn Warrington ar Awst 20, fel rhan o ymgyrch wrth-frawychiaeth.

Dyw’r cyhuddiad yn erbyn Rabar Mala yn ddim oll i wneud â bomio Arena Rhyngwladol Manceinio ym mis Mai eleni, meddai’r heddlu wedyn.