Mae dyn wedi cyfaddef cyflenwi’r cyffur ecstasi i ferch 15 oed a fu farw ar ol cymryd cyffur seicoactif (NPS).

Fe ymddangosodd Jacob Khanlarian, 20, o Newton Abbot, Dyfnaint, gerbron Llys y Goron Caerwysg heddiw, gan bledio’n euog i gyflenwi cyffuriau.

Fe gyfaddefodd i gyfleynwi MDMA (neu ecstasi) sy’n gyffur Dosbarth A, i ferch ysgol o’r enw Leah Kerry ar Orffennaf 14 eleni – ddiwrnod yn unig cyn iddi gael ei chanfod yn anymwybodol mewn parc, a marw wedyn.

Fe gafodd dwy ferch arall, a oedd wedi cymryd yr un cyffur, eu cludo i’r ysbyty rhag ofn, cyn cael eu hanfon adref yn ddiweddarach.

Mae Jacob Khanlarian wedi pledio’n euog hefyd i gyflenwi’r cyffur MDMA i ddau unigolyn arall ar Orffennaf 14.

Mae hefyd wedi cyfaddef cyflenwi’r un cyffur i eraill rhwng Ionawr 1, 2015 a Gorffennaf 15, 2017, yn ogystal â gwerthu canabis rhwng Ionawr 1, 2013 a Gorffennaf 15 eleni.