Kezia Dugdale
Mae arweinydd y Blaid Lafur yn yr Alban, Kezia Dugdale, wedi dweud bod angen “egni ffres” ar y blaid wrth gyhoeddi ei bod hi’n ymddiswyddo o fod yn arweinydd.

Dywedodd ei bod hi’n gadael y blaid “mewn gwell siâp” nag yr oedd hi pan gafodd hi ei hethol yn dilyn etholiad cyffredinol 2015. Bryd hynny, roedd y blaid wedi colli pob sedd ond un wrth i’r SNP gipio buddugoliaethau ar draws y wlad.

Dywedodd hi bod angen “mandad newydd” ar ei holynydd ar gyfer etholiadau nesaf Holyrood ymhen pedair blynedd.

‘Un o’r adegau mwyaf anodd’

Wrth dalu teyrnged iddi, dywedodd arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan, Jeremy Corbyn ei bod hi wedi cymryd at yr arweinyddiaeth “ar un o’r adegau mwyaf anodd” yn hanes Plaid Lafur yr Alban.

Ar ôl yr etholiad cyffredinol diweddaraf eleni, mae gan y Blaid Lafur saith sedd yn yr Alban erbyn hyn.

Fe ddiolchodd Jeremy Corbyn i Kezia Dugdale am ei gwaith fel arweinydd, gan ddweud bod “adfywiad y blaid ar y gweill”.

“Hoffwn ddiolch i Kez am ei gwasanaeth diflino i’n plaid a’n mudiad, gan edrych ymlaen at ymgyrchu gyda hi yn y dyfodol dros wlad sy’n gweithio i’r mwyafrif ac nid i’r lleiafrif.”

Arweinyddiaeth gythryblus

Dyw’r gwaith o fod yn arweinydd y Blaid Lafur dros y blynyddoedd diwethaf ddim wedi bod yn hawdd.

Hi yw’r trydydd arweinydd sydd wedi ymddiswyddo ers refferendwm annibyniaeth 2014, gan ddilyn Johann Lamont a Jim Murphy. Fe fu gan y blaid ddau arweinydd dros dro yn y cyfnod hwnnw hefyd, Anas Sarwar ac Iain Gray.

Serch hynny, dywedodd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon ar wefan gymdeithasol Twitter ei bod hi “wedi arwain gyda dewrder a dyfalbarhad”.

O dan ei harweinyddiaeth, mae Llafur yr Alban bellach yn cefnogi Alban ffederal.

Mae hi hefyd wedi annog gweinidogion yr Alban i ddefnyddio pwerau newydd i amrywio lefelau’r dreth incwm, gan alw am ail-gyflwyno’r gyfradd uchaf o 50c i’r rhai sy’n ennill y cyflogau uchaf, a chynnydd o geiniog yn y gyfradd sylfaenol.

Dyfodol y blaid

Mae Kezia Dugdale wedi gwadu iddi ymddiswyddo cyn iddi cael ei symud o’i gwaith, ond bydd hi’n parhau’n Aelod Seneddol yn rhanbarth Lothian.

Ei dirprwy Alex Rowley fydd yn arwain y blaid am y tro tan bod arweinydd newydd yn cael ei ddarganfod.

 

Ymhlith y rhai eraill sydd wedi talu teyrnged iddi mae cyn-arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, a ddywedodd ei bod hi’n “haeddu cael ei bywyd yn ôl”, ac arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, Ruth Davidson.

 

Mae arweinydd Plaid Werdd yr Alban, Patrick Harvie wedi dweud ei bod hi “wedi gwasanaethu ei phlaid gydag ymroddiad”.

 

Ychwanegodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Albanaidd, Willie Rennie bod Kezia Dugdale “wedi bod yn beth da i Lafur”.