Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi casgliad o ddiwygiadau a fydd yn gorfodi cwmnïau i gyfiawnhau cyflogau eu penaethiaid.

Mi fydd yn rhaid i bob cwmni sydd wedi eu rhestru ar y farchnad stoc, gyhoeddi cyflog arferol gweithiwr yn y cwmni a chyflog y Prif Weithredwr – a chyfiawnhau’r gwahaniaeth rhwng y ddau.

Nod y diwygiadau yw annog cwmnïau i fod yn fwy tryloyw ac agored, ac mi fyddan nhw’n cael eu cyhoeddi yn hwyrach heddiw.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Busnes, Greg Clark, mi fydd y mesurau yn “sicrhau bod ein cwmnïau mwyaf yn fwy tryloyw ac atebol, i’w gweithwyr ac i’w cyfranddalwyr.”

“Cynnig gwan”

Mae grwpiau busnes wedi croesawu’r cynlluniau, ond mae’r gwrthbleidiau ac undebau wedi eu barnu gan ddweud eu bod yn “wan.”

“Cynnig gwan yw’r un yma,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngres yr Undebau Llafur (TUC), Frances O’Grady. “Busnes fel arfer yw hi i gwmnïau ledled Prydain.”

“Mae addewid y Prif Weinidog i osod gweithwyr ar fyrddau cwmnïau wedi cael ei wanhau. Bellach does dim modd adnabod y cynnig.”