Llun: PA
Mae gyrrwr oedd yn teithio i’r cyfeiriad anghywir ar draffordd yr M4, wedi marw mewn gwrthdrawiad.

Fe ddigwyddodd y ddamwain am 22.40yh nos Sul, a hynny i gyfeiriad y dwyrain rhwng Chippenham a Swindon.

Mae Heddlu Wiltshire wedi cadarnhau fod y gyrrwr fu farw yn dreifio car Audi A3 du i’r cyfeiriad anghywir, pan fu mewn gwrthdrawiad gyda sawl cerbyd arall, cyn dod i stop ben-ben ag Audi A4.

Mae gyrrwr yr Audi A4 yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Southmead, Bryste.

Er bod y rhan honno o’r draffordd wedi bod ynghau am rai oriau, mae hi wedi ail-agor erbyn hyn.